Y Cyfarfod Llawn

 

Dyddiad y cyfarfod:
Dydd Mercher, 11 Rhagfyr 2013

 

Amser y cyfarfod:
13:30

 

 

 

 

Agenda

(170)v3

 

<AI1>

1 Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd (45 munud)

Gweld y Cwestiynau

 

</AI1>

<AI2>

2 Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio (45 munud) 

Gweld y Cwestiynau

 

</AI2>

<AI3>

Cwestiwn Brys

 

Kirsty Williams (Brycheiniog a Sir Faesyfed): Yn dilyn diarddel ymgynghorydd o Ysbyty Athrofaol Cymru, a wnaiff y Gweinidog Iechyd ddatganiad am farwolaethau diangen yn y GIG? EAQ(4)0364 (HSS)

 

</AI3>

<AI4>

3 Dadl y Ceidwadwyr Cymreig (60 munud) 

NDM5385 William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn gresynu at fethiant Llywodraeth Cymru i gynnal dadl ar y celfyddydau yn ystod y Cynulliad hwn.

 

2. Yn nodi:

 

a) pwysigrwydd cynhenid y celfyddydau a diwylliant i hunaniaeth Cymru a lles personol ei dinasyddion;

 

b) adroddiad Cyngor Celfyddydau Cymru “Adroddiad annibynnol ar gyfer Llywodraeth Cymru ar y Celfyddydau mewn Addysg yn Ysgolion Cymru” ar rôl y celfyddydau o ran datblygu llythrennedd a rhifedd; a

 

c) bod ymchwil VisitBritain yn nodi bod mwy o ymwelwyr tramor yn mynd i'r theatr, sioeau cerdd, opera neu fale, nag i ddigwyddiad chwaraeon byw, pan fyddant yn ymweld â Phrydain.

 

3. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i esbonio sut y caiff cyllid ar gyfer y celfyddydau ei ddiogelu o fewn y cyllidebau addysg a llywodraeth leol.

 

Mae adroddiad Cyngor Celfyddydau Cymru ar gael yn:

 

http://cymru.gov.uk/docs/dcells/publications/130920-arts-in-education-cy.pdf

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnwys is-bwynt 2b) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

pwysigrwydd y Celfyddydau wrth hybu defnydd o’r Gymraeg;

 

Gwelliant 2 - Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnwys is-bwynt 2c) newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

bod adroddiad Cyngor Celfyddydau Cymru yn argymell y dylai Llywodraeth Cymru archwilio dewisiadau cyllido gyda’r nod o sicrhau bod yna ddarpariaeth gyfartal ar gael i bobl ifanc ym mhob math o gelf, a bod pobl ifanc eithriadol o dalentog yn gallu dilyn a meithrin eu talent;

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i weithio gydag amgueddfeydd, orielau a chasgliadau eraill o gelf a threftadaeth yng Nghymru er mwyn sicrhau y gall cyfleusterau eraill yng Nghymru gael benthyg eitemau nad ydynt yn cael eu harddangos.

 

Gwelliant 4 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i roi cyfeiriad strategol i’r Cyngor Celfyddydau fuddsoddi mewn gwyliau llai ac artistiaid, cerddorion ac ysgrifenwyr addawol, a sicrhau bod digwyddiadau celfyddydol a diwylliannol yn symud tuag at gynlluniau busnes cynaliadwy.

</AI4>

<AI5>

4 Dadl Plaid Cymru (60 munud) 

NDM5386 Elin Jones (Ceredigion)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn nodi'r cynnydd diweddar mewn prisiau ynni ac yn gresynu at yr effaith y bydd hyn yn ei chael ar bob aelwyd yng Nghymru, yn enwedig y rhai sy'n dlawd o ran tanwydd na allant fanteisio ar fargeinion ynni tanwydd deuol ffafriol.

 

2. Yn gresynu bod y defnydd o fanciau bwyd wedi bron â threblu dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda mwyafrif y rhai sy'n troi at fanciau bwyd yn deuluoedd oedran gweithio, rhai oherwydd cyflog isel.

 

3. Yn nodi bod adroddiad diweddar Cartrefi Cymunedol Cymru ar effaith y dreth ystafell wely wedi canfod y disgwylir i ôl-ddyledion yn sgîl y dreth ystafell wely fod dros £2 filiwn erbyn mis Ebrill nesaf.

 

4. Yn nodi bod dros 41,000 yn fwy o bobl o hyd yn ddi-waith nawr nag a oedd cyn i'r argyfwng economaidd ddechrau.

 

5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu a diwygio ei strategaeth yn erbyn tlodi yng ngoleuni'r argyfwng cynyddol a wynebir gan bobl yn sgîl caledi, newidiadau i fudd-daliadau a chynnydd yng nghostau byw.

 

Mae adroddiad Cartrefi Cymunedol Cymru ar gael yn:

 

http://chcymru.org.uk/en/news/latest-news/chc-news/bedroom-tax-will-mean-1000-fewer-homes-in-wales

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1- Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ychwanegu fel pwynt newydd ar ddechrau'r cynnig ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn croesawu bod economi’r DU wedi tyfu 0.8% yn nhrydydd chwarter 2013 a bod y rhagolwg ar gyfer twf CMC y DU yn 2013 wedi codi o 0.6% i 1.4%.

 

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 1:

 

‘, a’r angen i roi sylw i effaith hyn gyda dealltwriaeth glir o’r canlyniadau o ran prisiau, buddsoddiad, ymateb y diwydiant a defnyddwyr’

 

Gwelliant 3 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 2 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn croesawu cyhoeddiad Llywodraeth y DU am ddiwygiadau a fydd yn golygu y bydd cartrefi’n arbed £50 y flwyddyn ar gyfartaledd ar eu biliau ynni a bod y dreth ar danwydd yn cael ei rhewi am weddill y Senedd hon.

 

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 2 a rhoi yn ei le:

 

Yn nodi bod banciau bwyd sydd wedi agor yn ddiweddar ledled Cymru yn helpu i fodloni anghenion y garfan gudd o bobl newynog, ac yn cydnabod gwaith pwysig banciau bwyd a’u cyfraniad at fywydau pobl mewn argyfwng.

 

Gwelliant 5 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 3 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn croesawu polisi’r Democratiaid Rhyddfrydol i godi trothwy’r dreth incwm  i £10,000, a weithredwyd gan Lywodraeth y DU, sy’n golygu, o fis Ebrill 2014,  y bydd dros 1.1 miliwn o bobl yng Nghymru yn cael dros £700 o doriad mewn treth ac na fydd 106,000 o weithwyr ar incwm isel yng Nghymru yn gorfod talu’r dreth incwm o gwbl.

 

Gwelliant 6 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 3 a rhoi yn ei le:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i gymryd camau ar frys i ddarparu ateb marchnad gyfan i’r argyfwng mewn cyflenwad tai ers datganoli.

 

Gwelliant 7 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys pwynt 4 newydd ac ailrifo yn unol â hynny:

 

Yn gresynu wrth fethiant y cymdeithasau tai a Llywodraeth Cymru i baratoi ar gyfer newidiadau yn y system fudd-daliadau, er gwaethaf dwy flynedd o rybudd, a methiant y llywodraethau Llafur a Cheidwadol blaenorol i adeiladu digon o gartrefi, gan olygu bod 1.5 miliwn o gartrefi wedi’u colli.

 

Gwelliant 8 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 4 a rhoi yn ei le:

 

Yn croesawu’r gostyngiad yn nifer y bobl nad ydynt mewn cyflogaeth yng Nghymru ers 2010, ond yn cydnabod bod gan Gymru lawer o ffordd i fynd o hyd o’i gymharu â gweddill y DU.

 

[Os derbynnir gwelliant 8 bydd gwelliant 9 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 9 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnwys ar ddiwedd pwynt 4:

 

‘ac yn gresynu bod Cymru yn dal ar ei hôl hi y tu ôl i weddill y DU gyda chyfradd ddiweithdra o 7.8% o gymharu â chyfartaledd o 7.1% yn y DU’.

 

Gwelliant 10 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu pwynt 5 a rhoi yn ei le:

 

Yn galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu a diwygio ei strategaeth yn erbyn tlodi ar sail cyd-gynhyrchu er mwyn mynd i’r afael â’r achosion o dlodi yng Nghymru sydd wedi’u gwreiddio’n ddwfn, y bwlch tlodi cynyddol, a’r symudedd cymdeithasol sydd wedi peidio ers datganoli.

 

[Os derbynnir gwelliant 10, bydd gwelliant 11 yn cael ei ddad-ddethol]

 

Gwelliant 11 - Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Ym mhwynt 5, dileu ‘yng ngoleuni’r argyfwng cynyddol a wynebir gan bobl yn sgîl caledi, newidiadau i fudd-daliadau a chynnydd yng nghostau byw’ a rhoi yn ei le ‘er mwyn mynd i’r afael â thlodi cynyddol, sydd wedi’i wreiddio’n ddwfn, mewn cymunedau yng Nghymru’.

</AI5>

<AI6>

5 Dadl Democratiaid Rhyddfrydol Cymru (60 munud) 

NDM5387 Aled Roberts (Gogledd Cymru)

 

Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:

 

1. Yn cydnabod rôl bwysig Swyddfa Archwilio Cymru o ran:

 

a) darparu gwaith craffu o safon sy’n annibynnol a chynhwysfawr ar weithgarwch a gwariant y Llywodraeth;

 

b) cynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus effeithiol ac atebol;

 

c) rhannu arfer da a nodi gwelliannau i’r broses o gyflenwi gwasanaethau cyhoeddus; a

 

d) helpu i sicrhau'r gwerth gorau am arian i bobl Cymru.

 

2. Yn nodi canfyddiadau adroddiadau olynol a gyhoeddwyd gan Swyddfa Archwilio Cymru, sy'n amlygu methiannau sylweddol o ran trefniadau llywodraethu a chyflenwi gwasanaethau cyhoeddus allweddol, gan gynnwys AWEMA; Bwrdd Draenio Mewnol Gwastadeddau Cil-y-coed a Gwynllŵg; Gwesty River Lodge; Gofal Heb ei Drefnu; Cyllid Addysg Uwch a Chyllid y GIG.

 

3. Yn nodi'r ymchwiliad parhaus i Gronfa Buddsoddi Cymru mewn Adfywio, penderfyniad y Gweinidog i ddiddymu'r corff hwn a dychwelyd arian Ewropeaidd i WEFO, a'r effaith ddilynol ar nifer o brosiectau adfywio sy'n ceisio cyllid gan CBCA.

 

4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:

 

a) cynnal adolygiad trylwyr o'r holl gyllid allanol i adfer hyder cyhoeddus a hyder buddsoddwyr yng ngallu Llywodraeth Cymru i fonitro a rheoleiddio cyllid Llywodraeth Cymru;

 

b) cyhoeddi’r gyfundrefn monitro sydd yn ei lle o ran ei pholisi rheoli grantiau ac adrodd yn flynyddol i'r Cynulliad Cenedlaethol ar ei chanlyniadau; a

 

c) datblygu gweithdrefn gadarn a thryloyw i fynd i'r afael yn fwy effeithiol â methiannau sylweddol a phenodol ym mholisi Llywodraeth Cymru a amlygwyd gan adroddiadau Swyddfa Archwilio Cymru.

 

Cyflwynwyd y gwelliannau a ganlyn:

 

Gwelliant 1 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Yn is-bwynt 1c) ar ôl ‘cyhoeddus’ rhoi ‘gan gynnwys drwy gyfrwng gwaith ei Chyfnewidfa Arfer Da’.

 

Gwelliant 2 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ym mhwynt 2, dileu popeth ar ôl ‘gwasanaethau cyhoeddus allweddol’.

 

Gwelliant 3 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Dileu is-bwynt 4a) a rhoi yn ei le:

 

adolygu’r cyllid a ddarperir ganddi i gyrff cyhoeddus Cymru a sefydliadau eraill er mwyn sicrhau bod y cyhoedd yn gallu bod yn hyderus ei fod yn cael ei reoli, ei fonitro a’i werthuso’n effeithiol;

 

Gwelliant 4 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Yn is-bwynt 4c) dileu ‘ym mholisi Llywodraeth Cymru’.

 

Gwelliant 5 - William Graham (Dwyrain De Cymru)

 

Ychwanegu pwynt newydd ar ddiwedd y cynnig:

 

Yn croesawu’r cydweithio rhwng Swyddfa Archwilio Cymru ac arolygiaethau eraill ac yn nodi y gallai hyn wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd eu gwaith.

</AI6>

<AI7>

Cyfnod Pleidleisio

Dechreuodd yr eitem am

</AI7>

<AI8>

6 Dadl Fer (30 munud) 

NDM5384 Julie Morgan (Gogledd Caerdydd): E-sigaréts: Faint o reoleiddio sydd ei angen arnom?

</AI8>

<TRAILER_SECTION>

 

Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Cynulliad am 13:30, Dydd Mawrth, 14 Ionawr 2014

</TRAILER_SECTION>

<LAYOUT_SECTION>

</LAYOUT_SECTION>

<TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

</TITLE_ONLY_LAYOUT_SECTION>

 

<HEADING_LAYOUT_SECTION>

</HEADING_LAYOUT_SECTION>

<TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</TITLED_COMMENT_LAYOUT_SECTION>

<COMMENT_LAYOUT_SECTION>

</COMMENT_LAYOUT_SECTION>

 

<SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

<TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>

 

</TITLE_ONLY_SUBNUMBER_LAYOUT_SECTION>